1,2,3,(4). Newyddion brâf a ddaeth i'n bro, Hwy haeddent gael eu dwyn ar go', Mae'r Iesu wedi cario'r dydd, Caiff carcharorion fynd yn rhydd. + cytgan gan Elfed Lewys 1934-99 Mae Iesu Grist o'n hochor ni, Fe gollodd ef ei waed yn lli; Trwy rinwedd hwn fe'n dwg yn iach I'r ochor draw 'mhen gronyn bach. Wel, f'enaid, bellach cod dy ben, Mae'r ffordd yn rhydd i'r nefoedd wen; Mae'n holl elynion ni yn awr Mewn cadwyn gan y Brenin mawr. Doed gogledd, de, a dwyrain bell, I glywed y newyddion gwell; Aed sôn am gadwedigol ras, Yn gylch oddeutu'r ddaear las.
- - - - -
1,2,(3,(4)); 1,2,4,5,6; 1,2,4,7,8,9.
Newyddion braf a ddaeth i'n bro,
Hwy haeddent gael eu dwyn ar go'
Mae'r Iesu wedi cario'r dydd,
Caiff carcharorion fyn'd yn rhydd.
Mae Iesu Grist o'n hochr ni,
Fe gollodd ef ei waed yn lli;
Trwy rinwedd hwn fe'n dwg yn iach,
I'r ochr draw 'mhen gronyn bach.
Wel, f'enaid, weithian c'od dy ben,
Mae'r ffordd yn rhydd i'r nefoedd wen;
Ein holl elynion sydd yn awr,
Mewn cadwyn gan y Brenin mawr.
Fy Iesu garai bellach mwy
Ddioddefodd drosof farwol glwy';
Fy Mhriod hynod yw o hyd,
A'm cyfaill goreu yn y byd.
Cyfododd yn ei erbyn Ef,
Y ddaear, uffern, do, a'r nef;
Ond sefyll wnaeth ein Prynwr drud
Tan eithaf dig y rhai'n i gyd.
O feiau mawr, 'beth all'sech fwy
Na rhoi i Frenin nefoedd glwy?
Lladdasoch Ef, fe drodd y rhod,
Mae dydd eich dïal
chwithau'n d'od. [WW]
Doed fel y dêl, mi a'i cara o hyd
Dan bob rhyw drallod
yn y byd,
Yn angau du a'r farn a ddaw.
Mi a'i cara i drag'wyddoldeb draw.
Pan syrthio'r ser fel ffigys îr,
Pan ferwo'r mor, pan losgo'r tir,
Pan droir yr haul a'r lloer yn ddu,
Pryd hyn mi gara
Mhrynwr cu.
Tra caffwyf rodio'r ddaear hon,
Rho'th hedd fel afon dan fy mron;
Ac yn y diwedd
moes dy law,
I'm dwyn i mewn i'r nefoedd draw.
fe'n dwg yn iach :: fe'n dŵg ni'n iach garai :: garaf Ddioddefodd :: Dyoddefodd bellach :: weithian John Dafydd 1727-83 [DJ] = Dafydd Jones 1711-77 [WW] = William Williams 1717-91
priodolwyd hefyd i
Tonau [MH 8888]: gwelir: Dal fi fy Nuw dal fi i'r làn Dowch addewidion dowch yn awr Fe gododd yn ei erbyn Ef Gwna ni fel halen â Dy râs I [D'wysog / Frenin] y goleuni glân Molianwn Iôr can's hyfryd yw O Arglwydd gwna fi'n golofn gre' O Deued dydd yr India i ben O feiau mawr 'beth all'sech fwy? O na foed ardal cyn bo hir 'Rym yn dy erfyn Arglwydd mawr Wel f'enaid bellach c'od dy ben Yn mylchau'r creigydd bydd o'n rhan |
Good news has come to our region, It is worthy to be brought to mind Jesus has carried the day, Prisoners may go free. + chorus by Elfed Lewys 1934-99 Jesus Christ is of our side, He shed his blood as a stream; Through his merit he will lead us whole To the far side after a little while. See, my soul, now raise thy head, The way is free to the blessed heavens; All our enemies are now In chains by the great King. Let North, South, and far East, come To hear the better news; And let the mention of saving grace go, As a circle around the blue-green earth. - - - - -
Good news has come to our region,
It is worthy to be brought to mind
Jesus has carried the day,
Prisoners may go free.
Jesus Christ is of our side,
He shed his blood as a stream;
Through his merit he will lead us whole
To the far side after a little while.
See, my soul, sometimes raise thy head,
The way is free to the bright heaven;
All our enemies are now.
In chains by the great King.
My Jesus I would love henceforth more
Who suffered for me a mortal wound;
My particular Redeemer he is still,
And my best friend in the world.
Against him rose
The earth, hell, yes, and heaven;
But stand did our precious Redeemer
Under the utmost wrath of all of those.
O great faults, what could ye do
But give to the King of heaven a wound?
Ye slew him, the sky turned,
The day of your own
vengeance is coming.
Come as it may, he will love me still
Under every kind of
tribulation in the world,
In black death and the coming judgment.
He will love me to a distant eternity.
When the stars fall like fresh figs,
When the sea boils, when the land burns,
When the sun and the moon turn black,
At this time my dear
Redeemer will love me.
While I roam this earth,
Put thy peace like a river
beneath my breast;
And at the end give thy hand,
To lead me into the distant heavens.
:: Who suffered :: He suffered :: :: tr. 2009,25 Richard B Gillion |
|